Dych Chi'n Chwilio am Actores Trosleisio Saesneg neu Gymraeg?

Actores Troslais Gymraeg gyda Paned
Actores Troslais gyda Paned

Llyfr



Newyddion

PWY DW I?

Cromerty York dw i, a ches i fy ngeni a fy magu yn Stoke-on-Trent, Swydd Stafford. Artist Llais rhyngwladol, proffesiynol dw i, ac dw i'n gweithio ledled y byd.


Fel un o’r artistiaid llais benywaidd mwyaf sefydledig a phrofiadol yn y DU, mae amrywiaeth ardderchog gyda fi, sy’n golygu fy mod i’n gallu newid fy naws, fy sain ac acen, a hyd yn oed fy nhafodiaith.


Mae’r sgiliau hyn yn golygu fy mod i’n cael llawer o waith mewn gemau fideo ac apiau, yn ogystal ag ar y teledu a’r radio – mae fy sgiliau amryddawn yn golygu fy mod i wedi chwarae ystod eang o rannau, o fadarchen Albanaidd i Dduwies ddialgar.

BLE DYCH CHI WEDI FY NGHLYWED?

Efallai eich bod chi wedi fy nghlywed tra’r o’ch chi’n ffonio’ch banc, ar hysbysebion teledu, radio, gemau fideo, ffilmiau byr – gan gynnwys teithiau byr newydd John Panton, Surveyor, a sain (gan gynnwys Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain, a Bwrdd Twristiaeth Yr Iseldiroedd), a Reality House ar YouTube.

Cromerty York-Female Voice Over-Actores Troslais Cymraeg

Cromerty York-Female Voice Over-Actores Troslais Cymraeg

Dw i wedi gweithio i gleientiaid yn Ynysoedd y Falkland, Antarctica, Ewrop, y Dwyrain Canol, America, Awstralia a’r DU, i gyd o fy stiwdio broffesiynol fy hun (wedi ei lleoli yng Ngogledd Swydd Efrog, y DU, ac yn Llundain).

Mae gyda fi enw am gynhyrchu recordiadau clir mewn unrhyw fformat y dymunwch chi, gydag amser troi o gwmpas (gan ddibynnu ar hyd y sgript) o awr. Rwyf hefyd yn gallu recordio trwy ipDTL, CleanFeed a Source Connect Pro, neu gyda chyfarwyddyd dros Skype o fy stiwdio broffesiynol o’r radd flaenaf.

Mae fy rhestr cleientiaid amrywiol yn cynnwys NASA, The European Space Agency, M&C Saatchi, Nestlé, Toyota, Senedd Ewrop, Fisher-Price, Lidl, Philips, Oral-B a Credit Suisse. Dw i hefyd wedi gweithio i nifer o orsafoedd radio yn y DU ac yn fyd-eang, yn ogystal ag amrywiaeth o dai cynhyrchu a chwmnïau gemau fideo.

 

PA ACENION DW I’N GALLU GWNEUD?

Artist Llais y Gogledd dw i, a dw i’n gallu siarad yn hyderus mewn amrywiaeth o acenion y DU gan gynnwys y Potteries, Gogledd Swydd Efrog, Bolton, Lerpwl, Yr Alban a Chymru.

Dw i’n siarad hefyd yn arbennig o fedrus gydag acenion Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg.

 

PA SGILIAU ERAILL SYDD GYDA FI?

Heblaw am fy Saesneg brodorol, dw i’n (gwneud) trosleisio yn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg (gydag ychydig o acen Saesneg – ond mae’r sgil hon yn arbennig o ddefnyddiol wrth sgwrsio â chleientiaid Ewropeaidd dros Zoom neu Discord, yn ogystal â gwneud IVRs amlieithog) a dw innau’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.

Mae fy sgiliau iaith hefyd wedi fy helpu i wneud gwaith yn y Ffinneg a’r Iseldireg (dw i ddim yn eu siarad nhw’n rhugl chwaith – onddw i’n frwdfrydig IAWN), gan fy ngwneud yn artist trosleisio gwirioneddol amlieithog.

 

SUT DYCH CHI’N GALLU CYSYLLTU Â FI?

Gyrrwch e-bost ata i ar info@alteregovoices.com, ffoniwch fi ar (+44) (0)7786585995, neu ewch draw i fy nhudalen gyswllt a gadewch i ni gael sgwrs!

Commercial Voice Over


Phone Voice Over


Gaming Voice Over


WELSH VOICE OVER

If you need a Welsh voice over for your project, drop me a message today. I have my own professional, broadcast-quality studio, and can generally get scripts back to you within a couple of hours.